Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 16 Ebrill 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson Elin Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Deisebau newydd
2.1 P-04-469 Dileu’r Cap Rhanbarthol ar Brisiau mewn Perthynas â’r Cynllun Hawl i Brynu
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.2 P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ei farn ar y ddeiseb ac i ofyn pryd bydd yr achos busnes a’r gwaith diwydrwydd dyladwy ar gael.
2.3 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i Sicrhau Bod Diffibrilwyr ar Gael ym Mhob Man Cyhoeddus
2.3 Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
· Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
· Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru;
· Heddluoedd Cymru;
· Un Llais Cymru; a
· Chonsortiwm Manwerthu Prydain i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.
2.4 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; a
· chlywed tystiolaeth lafar.
2.5 P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Tai ac Adfywio; a
· Chyngor Sir Powys i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.
Gwnaeth y Cadeirydd a Russell George ddatganiad o fuddiant fel Cynghorwyr Cyngor Sir Powys.
2.6 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· grwpio’r ddeiseb gyda P-04-457, gan nodi bod y ddwy ddeiseb yn dadlau i’r gwrthwyneb i’w gilydd;
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei hysbysu am y ddeiseb ac i ofyn am ei farn ar y posibilrwydd o ymestyn gwasanaethau caplaniaeth i ganolfannau gofal eraill; a
· chymryd tystiolaeth lafar.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ganlyniad i ddatganiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU nad oes unrhyw ystyriaeth wedi’i roi i symud Trident, cytunodd i gau’r ddeiseb.
3.2 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Ceredigion i ofyn a allai’r Cabinet rannu casgliadau’r adolygiad annibynnol â’r Pwyllgor, a nodi pa gamau gweithredu fydd yn cael eu cymryd o ganlyniad i’r adolygiad.
3.3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu pryderon BEAT Cymru a’r deisebydd;
· Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta i ofyn am ei barn ar y ddeiseb; ac
· yn ddibynnol ar gapasiti, clywed tystiolaeth lafar, o bosibl.
3.4 P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon
Ystyriodd y pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth gan Bwrdd Iechyd Cwm Taf.
3.5 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ofyn am ragor o fanylion ar amserlen yr adolygiad gwasanaethau iechyd rhywiol; ac
· ailedrych ar y ddeiseb ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau i ystyried y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro.
3.6 P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio!
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; ac
· aros am gyhoeddiad y cynlluniau gwasanaeth ar gyfer De Cymru.
3.7 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ymgymryd â rhagor o waith ar y ddeiseb os na fyddai’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn gwneud hynny;
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu’r problemau sy’n wynebu’r deisebydd a’r anawsterau a nodwyd gan Gyngor Caerffili; ac
· ysgrifennu at Gyngor Caerffili gyda mwy o fanylion am achos y deisebydd.
3.8 P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· grwpio’r ddeiseb gyda P-04-474;
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu’r problemau sy’n wynebu’r deisebydd a gofyn a yw ei farn yn wahanol i farn ei ragflaenydd;
· ysgrifennu at Gonffederasiwn y GIG i ofyn am ei farn ar y ddeiseb a gofyn a ŵyr am unrhyw ddata ynghylch y nifer sy’n defnyddio gwasanaethau caplaniaeth; a
· chlywed tystiolaeth lafar.
3.9 P-04-418 Enwi’r A470 yn - Brif Ffordd Tywysog Owain Glyndŵr
O ganlyniad i ddiffyg ymateb gan y deisebydd cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
3.10 P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth weinidogol; ac
· ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i’w hysbysu am y ddeiseb.
3.11 P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am benderfyniad y Gweinidog.
3.12 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· ColegauCymru;
· Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru; a
· Gyrfaoedd Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.
3.13 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i amlygu pryderon y deisebydd nad oedd ei ohebiaeth yn mynd i’r afael â phwynt cyntaf y ddeiseb.
3.14 P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros tan i’r Pwyllgor Menter a Busnes orffen ystyried Bil Teithio Llesol (Cymru).
3.15 P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· Ymddiriedolaeth Castell Penfro a Chyngor Tref Penfro i ofyn am eu barn ar y ddeiseb; a’r
· Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ragor o wybodaeth am y Cynlluniau Dehongli ar gyfer y Canol Oesoedd hwyrach.
3.16 P-04-344 Carthffos gyhoeddus yn Freshwater East
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac am fod nodau’r ddeiseb wedi’u cyflawni cytunodd i gau’r ddeiseb.
3.17 P-04-406 Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol
3.18 P-04-411 Deiseb yn Erbyn Parthau Cadwraeth Morol yn Sir Benfro
3.19 P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· rannu ymatebion y deisebydd â’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan amlygu bod gan y ddwy ochr bryderon sylweddol ynghylch y broses ymgynghori, ac i ofyn pa wersi sydd wedi’u dysgu ar gyfer ymarferion ymgynghori yn y dyfodol; ac
· aros am gasgliadau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Barthau Cadwraeth Morol.
3.20 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio yn rhannu gwybodaeth y deisebydd a gofyn a ellir ystyried y materion sydd wedi’u hamlygu.
3.21 P-04-428 Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
3.22 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn amlygu pryderon y Cyngor ynghylch y cynllun ffordd gyswllt; ac
· y Gweinidog Tai ac Adfywio yn gofyn sut bydd y fframwaith adfywio newydd yn cynorthwyo â datblygu gwelliannau, fel y rhai y mae galw amdanynt yn Abergwaun.